Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Atodiad 1 – Cylch Gorchwyl
Ystyried—
1. Egwyddorion cyffredinol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth -
Wrth ddod i farn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o’r Bil:
i. Rhan 2: Awdurdod Cyllid Cymru - gan gynnwys sefydlu corff cyhoeddus newydd; aelodaeth o fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru; ei phrif swyddogaeth, dirprwyo swyddogaethau a chyfarwyddyd; pwerau statudol Awdurdod Cyllid Cymru; gwybodaeth warchodedig am drethdalwr; a threfniadaeth a threfniadau llywodraethu.
ii.Rhan 3: Ffurflenni treth, ymholiadau ac asesiadau- yn cynnwys dyletswyddau trethdalwyr i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel; ffurflenni treth; ymholiadau Awdurdod Cyllid Cymru ac atgyfeirio at dribiwnlys yn ystod ymholiad; penderfyniadau ac asesiadau Awdurdod Cyllid Cymru; hawlio am ryddhad treth mewn achos o asesu gormodol neu dreth a ordalwyd;
iii. Rhan 4: Pwerau Ymchwilio Awdurdod Cyllid Cymru – gan gynnwys pwerau Awdurdod Cyllid Cymru i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol; cyfyngiadau ar hysbysiadau gwybodaeth; archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
iv. Rhan 5: Cosbau - gan gynnwys cosbau am fethu â chyflwyno ffurflenni treth, anghywirdebau yn ymwneud â threfniadau cadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, ac yn ymwneud ag ymchwiliadau; talu cosbau; ac atodol;
v. Rhan 6: Llog – yn cynnwys llog ar symiau sy’n daladwy i Awdurdod Cyllid Cymru a ganddi; a chyfraddau llog;
vi. Rhan 7: Talu a gorfodi - gan gynnwys talu ac ardystio dyled; ac adfer;
vii. Rhan 8: Adolygiadau ac apelau - gan gynnwys penderfyniadau apeladwy; adolygiadau; apelau; canlyniadau adolygiadau ac apelau; a chytundebau setlo;
viii. Rhan 9: Ymchwilio i droseddau - gan gynnwys pwerau i ymchwilio i droseddau; enillion troseddau; a rheoleiddio pwerau ymchwilio;
ix. Rhan 10: Darpariaethau terfynol - yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol; rheoliadau; dyroddi hysbysiadau; a rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i Awdurdod Cyllid Cymru.
2. unrhyw rwystrau posibl o ran rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
3. a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil
4. goblygiadau ariannol y Bil ( fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
5. priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).